AC(4)2011(6) Papur 5
Dyddiad: 24 Tachwedd
2011
Amser: 9.30-11.30
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Nicola Callow,
8054
Cyllideb atodol 2011-12
1.0 Diben a chrynodeb o’r materion
1.1 Roedd Cyllideb 2011-12 yn darparu ar gyfer cronfeydd ar wahân yn ymwneud â chostau etholiadau. Y cronfeydd y cytunwyd arnynt oedd £3.460m ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a £0.655m ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad.
1.2 Roedd y Gyllideb yn ei gwneud yn glir y byddai’r Comisiwn yn ceisio dychwelyd unrhyw arian dros ben i floc Cymru drwy gyfrwng y gyllideb atodol.
1.3 Tynnwyd sylw yn adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn ym mis Hydref fod y Bwrdd wedi bod yn penderfynu lefel yr arian sydd i’w ddychwelyd i floc Cymru. Mae’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn rhagweld y bydd gwariant Aelodau’r Cynulliad mewn cysylltiad ag etholiadau £1.8m yn llai na’r swm yn y gyllideb, ac ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad y ffigur hwn fydd £0.2m.
2.0 Argymhellion
2.1 Argymhellir y dylai’r Comisiwn ddychwelyd £2.0m i floc Cymru drwy gyfrwng cynnig cyllidebol atodol.
3.0 Trafodaeth
3.1 Cafodd cyllideb etholiad Aelodau’r Cynulliad ei hamcangyfrif ar y sail na fyddai 30 o Aelodau yn dychwelyd i’r Cynulliad, am gost ar gyfartaledd o £115k. Y ffigur gwirioneddol oedd 23 o Aelodau am gost ar gyfartaledd o £70k. Gall y gwariant terfynol gael ei gyfrifo’n gywir erbyn hyn gan fod y mwyafrif o’r hawliadau wedi’u talu.
3.2 Rhagwelir tanwariant o £0.3m ar ddiwedd y flwyddyn yn y brif gyllideb o £13.034m ar gyfer tâl, lwfansau a staff cymorth yr Aelodau. Mae’r prif risgiau i’r rhagolwg yn deillio o newidiadau ym mhatrymau’r Aelodau o hawlio a chyfraddau trosiant ymhlith staff cymorth. Gan nad ydym yn disgwyl dim effaith ariannol bellach oherwydd penderfyniadau gan y Bwrdd Taliadau eleni, mae digon o ddarpariaeth wrth gefn yn y tanwariant o £0.3m ar 31 Mawrth 2012 i ddarparu ar gyfer yr amrywiadau hyn. Felly, bach iawn yw’r risg o ddychwelyd £1.8m.
3.3 Roedd angen y gyllideb etholiadol ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad o £655k er mwyn gwneud gwaith TGCh, adnewyddu swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad, cyhoeddiadau a’r agoriad swyddogol. Mae’r rhagolwg diweddaraf yn dangos y bydd arnom angen £200k yn llai nag a ragwelwyd yn wreiddiol.
3.4 O ran y brif gyllideb o £31.673m ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad, mae’r rhagolwg diweddaraf yn dangos tanwariant o £465k er ein bod yn disgwyl rheoli hwn i leihau’r tanwariant erbyn diwedd y flwyddyn. Yn ogystal, mae’r gronfa ailstrwythuro o £593k yn dal ar gael i’w defnyddio. Gan fod digon o gapasiti ac arian wrth gefn o fewn y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau’r Cynulliad, bach iawn yw’r risg o ddychwelyd cyllideb etholiadol o £200k sydd heb ei defnyddio.
3.5 Yn dilyn trafodaethau gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, mae angen i ni ddarparu ffigurau cadarn ar gyfer y gyllideb atodol erbyn diwedd Tachwedd 2011. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru’n gosod Cyllideb Atodol 2011-12 yn gynnar yn 2012.